Mae dyn digartref wedi cael ei gadw yn y ddalfa ar gyhuddiad o drywanu arweinydd gweddi â chyllell gegin mewn mosg yn Llundain nos Iau.

Mae Daniel Horton, 29 oed heb gyfeiriad sefydlog, yn cael ei gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol ac o fod â llafn yn ei feddiant.

Wrth ymddangos gerbron llys ynadon Westminster heddiw, Sadwrn 22 Chwefror, ni ddywedodd ddim heblaw cadarnhau ei enw a’i oedran a’i genedligrwydd Prydeinig.

Cafodd Raafat Maglad, sy’n 70 oed, driniaeth ysbyty am anafiadau ar ôl cael ei drywanu yn y digwyddiad, ond cafodd fynd adref yn ddiweddarach.

Roedd yn ei ôl yn y mosg ar gyfer gweddïau ddoe, lai na 24 awr wedi’r ymosodiad.