David Cameron
Fydd Prif Weinidog Prydain ddim yn mynd i gynhadledd bwysig am newid hinsawdd a dyfodol y byd oherwydd dathliadau Jiwbilî Diamwnt y Frenhines.
Mae David Cameron wedi gwrthod galwadau gan fudiadau gwyrdd a phwyllgor o Aelodau Seneddol ar iddo fynd i gynhadledd Rio +20 y flwyddyn nesa’.
Mae honno’n nodi 20 mlynedd ers yr Uwch gynhadledd fawr yn Rio de Janeiro yn 2012 – roedd honno’n allweddol wrth gytuno ar dargedau i daclo newid hinsawdd.
Er hynny, does dim cytundebau rhyngwladol pendant wedi eu clustnodi ar gyfer y gynhadledd.
‘Eisiau gweithredu ymarferol’
Fe ddywedodd llefarydd ar ran y Prif Weinidog y bydd tîm yno dan arweiniad yr Ysgrifennydd Amgylchedd.
Fe ddywedodd hefyd fod David Cameron yn awyddus i weld gweithredu ymarferol yn deillio o’r gynhadledd.
Roedd Pwyllgor Awdit Amgylcgheddol y Senedd wedi galw arno i fynd i’r gynhadledd ei hun – yn ôl y Cadeirydd, fe ddylai arwain trwy esiampl.
Ac mae llefarydd o’r mudiad gwyrdd WWF-UK wedi ei gondemnio gan ddweud fod y penderfyniad yn “siomedig iawn”.