Mae Danny Cipriani, chwaraewr rygbi Lloegr, wedi talu teyrnged i Caroline Flack mewn fideo ar ei gyfrif Instagram, gan hefyd ddatgelu iddo yntau geisio lladd ei hun.

Dywedodd ei fod wedi bod yn siarad â’i gyn-gariad yn rheolaidd yn ystod y tri neu bedwar mis diwethaf, a’i bod hi wedi ceisio cysylltu â fe nos Wener diwethaf, oriau cyn i’r gyflwynwraig ladd ei hun.

Y noson honno, roedd Danny Cipriani yn chwarae i dîm Caerloyw (Gloucester) yn erbyn Caerwysg (Exeter) yn Uwch Gynghrair Gallagher, a’i fod felly wedi methu ei galwad.

Dywed y byddai’n rhannu popeth gyda Caroline Flack “oherwydd iddi wneud i mi deimlo’n ddiogel”.

Yn y fideo, dywed y chwaraewr rygbi 32 oed, sydd wedi ennill 16 o gapiau dros Loegr, ei fod wedi dioddef o “iselder difrifol” yn ei ugeiniau cynnar.

“Mae dyletswydd arnaf i rannu fy mhrofiad,” meddai.

Gan egluro ei resymau dros gyhoeddi’r fideo, ychwanega, “Rwy’n dweud y pethau hyn er mwyn i bobol eraill wybod ei bod hi’n iawn i fod yn agored ac yn fregus”.

Ar ddiwedd y fideo, mae’n diolch i bobol am eu caredigrwydd tuag at deulu a ffrindiau Caroline Flack.

Cefndir

Fe wnaeth Caroline Flack roi’r gorau i gyflwyno Love Island ar ôl ymosodiad honedig ar ei chariad, Lewis Burton.

Plediodd yn ddieuog mewn gwrandawiad llys ym mis Rhagfyr a chafodd ei rhyddhau ar fechnïaeth, a’i gorchymyn i beidio â chysylltu â Lewis Burton, er nad oedd e o blaid ei herlyn hi.

Cafwyd hyd iddi’n farw yn ei fflat yn Llundain ddydd Sadwrn (Chwefror 15), ac fe ddaeth i’r amlwg iddi ladd ei hun.