Mae Paul Golding, arweinydd Britain First, wedi cael ei gyhuddo o drosedd frawychol ar ôl gwrthod rhoi mynediad i’r heddlu i’w ffôn symudol.

Cafodd y dyn 38 oed ei atal ym maes awyr Heathrow ym mis Hydref ar ei ffordd adref o daith i senedd Rwsia ym Mosgo.

Fe wrthododd e roi codau PIN sawl teclyn i’r heddlu, ac fe gafodd ei gyhuddo o wrthod cydymffurfio â’r ddeddf.

Bydd e’n mynd gerbron ynadon Westminster ddydd Iau nesaf (Chwefror 27).

Mae Paul Golding yn dweud bod y cyhuddiadau’n “gamddefnydd o ddeddfwriaeth”.

Mae’r ddeddf sydd wedi’i defnyddio i’w gyhuddo’n galluogi’r heddlu i holi, chwilio a chadw rhywun yn y ddalfa am hyd at chwech awr ar ôl iddyn nhw gyrraedd gwledydd Prydain.