Mae Llafur wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog Boris Johnson yn gofyn a yw’n cytuno â theimladau ei gyn-ymgynghorydd ar bobl ddu a gorfodi atal cenhedlu ar bobl ddifreintiedig.

Mae’r wrth blaid wedi galw am atebion am sut gafodd Andrew Sabisky swydd yn Rhif 10 Downing yn sgil y pethau roedd wedi eu hysgrifennu ar-lein yn y gorffennol.

Ymddiswyddodd Andrew Sabisky ddydd Llun (Chwefror 17).

Dywedodd nad oedd ef eisiau tynnu sylw oddi ar y Llywodraeth y sgil sylwadau ganddo yn cael eu canfod, megis bod gan bobl ddu IQ “agos at y ffin o fod â nam meddyliol.”

Yn ôl Gweinidogion, fe wnaeth Andrew Sabisky “neidio cyn cael ei wthio” ond mae’r blaid Lafur yn benderfynol o gael gwybod sut cafodd ef ei gyflogi yn y lle cyntaf.

Mewn llythyr at Boris Johnson, ysgrifennodd Cadeirydd y blaid Llafur Ian Lavery: “Mae Andrew Savisky wedi gadael eich Llywodraeth, diolch i’r drefn.

“Fodd bynnag, mae ei sylwadau dychrynllyd ar ewgeneg, hil a merched, sydd wedi cael eu nodi yn y cyfryngau, yn codi cwestiynau difrifol am eich credoau chi.”

Aeth ymlaen i dynnu sylw at erthygl yng nghylchgrawn y Spectator pan oedd yn Boris Johnson yn olygydd oedd yn dweud bod “pobl o’r Dwyrain Pell yn glyfrach a gyda sgôr IQ uwch, tra bod duon ar y pegwn arall.”

“Mae gan Boris Johnson atebion difrifol i’w hateb am sut cafodd yr apwyntiad yma ei wneud ac os yw ef yn cytuno â’r farn ffiaidd yma,” meddai Ian Lavery.