Jo Yeates
Fe fydd y barnwr yn achos llofruddiaeth Joanna Yeates yn dechrau crynhoi’r dystiolaeth heddiw.

Fe fydd yn amlinellu’r achos yn erbyn Vincent Tabak, 33 oed, a oedd yn byw yn yr un adeilad â’r pensaer tirlunion 25 oed ym Mryste.

Mae’r erlyniad yn honni ei fod wedi llofruddio’r wraig ifanc ac wedyn wedi cuddio’i chorff mewn coedwig.

Mae Vincent Tabak yn gwadu’r cyhuddiad o lofruddio ond yn pledio’n euog i ddynladdiad gan ddweud ei fod wedi tagu Jo Yeates ar ôl iddi hi sgrechian pan geisiodd ei chusanu.

Fe ddiflannodd hithau ar ôl noson allan ar 17 Rhagfyr y llynedd ac fe fu’r heddlu yn chwilio amdani cyn i’r corff gael ei ffeindio ddydd Nadolig.

Fe gafodd Vincent Tabak ei arestio bron fis wedyn ar ôl i dystiolaeth DNA ei gysylltu gyda’r corff.