Mae Priti Patel, Ysgrifennydd Cartref San Steffan, wedi cyhoeddi system bwyntiau newydd ar gyfer mewnfudwyr sy’n dod i wledydd Prydain.

Er mwyn cael y pwyntiau gofynnol fe fydd yn rhaid i ddarpar fewnfudwyr allu siarad Saesneg a bodloni meini prawf llym yn ymwneud â sgiliau neu legelau cyflog.

Dywed y llywodraeth mai nod y system newydd yw adennill rheolaeth ar ffiniau Prydain, blaenoriaethu’r gweithwyr gorau a mwyaf galluog ar draul gweithwyr â llai o sgiliau, a lleihau cyfanswm y mewnfudwyr.

Bydd y system newydd yn dod i rym ar Ionawr 1 y flwyddyn nesaf, gan roi terfyn ar ryddid i symud.

Fe fydd mewnfudwyr yn cael nifer penodol o bwyntiau ar gyfer sgiliau, cymwysterau, cyflogau neu alwedigaeth, a dim ond y rhai sy’n ennill digon o bwyntiau fydd yn derbyn fisa.

Fe fydd gwyddonwyr, ymchwilwyr, peirianwyr ac academyddion yn cael blaenoriaeth, a bydd trigolion o’r Undeb Ewropeaidd sy’n cwympo i un o’r categorïau hyn yn cael dod i wledydd Prydain heb fod ganddyn nhw gynnig gwaith.

Yr isafswm cyflog er mwyn i weithwyr basio’r meini prawf cyflogau fydd £25,600 a bydd y gallu i siarad Saesneg yn hanfodol ym mhob un o’r categorïau.

O ran cymwysterau, fe fydd angen o leiaf Safon Uwch ar ymgeiswyr yn hytrach na gradd yn unol â’r drefn bresennol a’r gobaith yw y bydd hyn yn cynyddu’r gronfa o weithwyr.

Mae lle i gredu na fyddai 70% o drigolion yr Undeb Ewropeaidd yn gymwys ar gyfer y llwybr Ewropeaidd, a fydd yn gostwng nifer y mewnfudwyr yn sylweddol.

‘Eiliad hanesyddol’

“Mae heddiw’n eiliad hanesyddol i’r wlad gyfan,” meddai Priti Patel, Ysgrifennydd Cartref San Steffan.

“Rydym yn rhoi terfyn ar symud yn rhydd, yn adennill rheolaeth ar ein ffiniau ac yn gweithredu ar flaenoriaethau pobol drwy gyflwyno system bwyntiau ar gyfer mewnfudo i wledydd y Deyrnas Unedig, a fydd yn gostwng cyfanswm y mewnfudwyr.

“Byddwn yn denu’r mwyaf disglair a’r goreuon o bob cwr o’r byd, gan roi hwb i’r economi a datgloi gwir botensial y wlad hon.”