Mae’r Canghellor Rishi Sunak wedi cadarnhau y bydd y Gyllideb yn dal i fynd yn ei blaen fis nesaf, er bod sïon y gallai gael ei symud yn dilyn ymadawiad sydyn ei ragflaenydd.

Doedd Downing Street ddim yn medru cadarnhau yr wythnos ddiwethaf y byddai’r Gyllideb yn cael ei chynnal yn ôl yr arfer, ar ôl ymddiswyddiad annisgwyl Sajid Javid yn ystod yr ad-drefnu ddydd Iau diwethaf (Chwefror 13).

Ond mae’r Canghellor newydd wedi dweud ar Twitter ei fod  yn “bwrw ymlaen gyda’r paratoadau” ar gyfer ei Gyllideb gyntaf ar Fawrth 11, gan ddweud y bydd yn “cadw at yr addewidion a wnaed i bobl Prydain.”