Y Ddinas yn Llundain
Mae un o arweinwyr Eglwys Lloegr wedi galw ar brotestwyr i adael cyffiniau eglwys gadeiriol St Pauls.

Yn ôl Esgob Llundain, mae angen dod â’r brotest yn erbyn y banciau a chwmnïau ariannol i ben ar ôl iddi orfodi swyddogion yr eglwys gadeiriol i gau ei drysau i’r cyhoedd.

Y peryg, meddai Richard Chartres – y trydydd yn nhrefn penaethiaid yr Eglwys – oedd fod y brotest ei hun yn tynnu mwy o sylw na’r achos.

Roedd wedi codi llawer o gwestiynau pwysig, meddai, ond roedd yntau’n cefnogi galwad swyddogion yr eglwys ar i’r protestwyr symud.

Y cefndir

Mae’r ymgyrchwyr – sy’n dilyn esiampl protestiadau tebyg yn ninasoedd yr Unol Daleithiau – wedi sefydlu gwersyll ar dir y tu allan i’r eglwys yn rhan o ymgyrch i ‘feddiannu’ ardal y Ddinas yn Llundain.

Maen nhw’n protestio oherwydd rhan y banciau a busnesau tebyg yn yr argyfwng ariannol gan ddweud fod pobol gyffredin wedi eu cau allan o’r broses wleidyddol.

Mae rhai papurau newydd a chynghorwyr yn Llundain wedi honni bod y rhan fwya’ o’r pebyll yn wag tros nos, ond mae’r protestwyr yn gwadu hynny.