Mae amodau gwaith yn storfeydd cwmni Amazon yng ngwledydd Prydain “fel uffern” yn ôl undeb y GMB.

Yn ôl y ffigurau diweddaraf, mae cannoedd o bobl wedi cael eu niweidio tra’n gweithio yn storfeydd Amazon UK dros y dair blynedd diwethaf, gan godi cwestiwn am ddiogelwch y cwmni.

Mae’r rhifau wedi eu casglu gan undeb yr GMB, ac yn dangos fod 240 o adroddiadau o niwed difrifol, neu sefyllfaoedd ble roedden nhw’n agos i gael niwed wedi eu hanfon i’r Swyddog Iechyd a Diogelwch o storfeydd Amazon yn ystod y flwyddyn ariannol yn 2019.

Mae’n dod â’r cyfanswm dros y tair blynedd diwethaf i 622.

Mwy o achosion

Yn ôl y ffigurau a gasglwyd gan y GMB, mae’r adroddiadau a anfonwyd i’r Swyddog Iechyd a Diogelwch wedi cynyddu’n flynyddol o 152 yn 2017 i 240 yn 2019.

Ond yn y cyfnod hwn, mae nifer y storfeydd sy’n cael eu rhedeg gan Amazon wedi dyblu o 10 yn 2015 i 22 erbyn hyn.

Meini prawf ac ymateb

Er mwyn i unrhyw anaf gael ei gyfrif mewn ffigurau, mae angen iddyn nhw fod yn ddigon difrifol i:

  • stopio rhywun rhag gwneud eu dyletswyddau arferol am saith diwrnod,
  • fod ar restr toriadau, trychiadau, gwasgu, colli croen pen neu losgi.

Mewn ystorfa yn Llundain, cafodd un gweithiwr ei daro’n anymwybodol a stopio anadlu ar ôl anafu ei ben, meddai’r GMB.

Ym Manceinion, aeth gweithiwr yn sownd mewn giât a thorri ei law.

“Mae Amazon yn gwario miliynau ar ymgyrchoedd PR yn ceisio perswadio pobl fod eu storfeydd yn le gwych i weithio ynddyn nhw,” meddai Mick Rix, swyddog cenedlaethol y GMB.

“Ond y ffeithiau’n amlwg i bawb- mae pethau’n gwaethygu.”

“Mae cannoedd o weithwyr Amazon angen sylw meddygol ar frys.

“Mae fel uffern yno.

“Rydym wedi ceisio siarad dro ar ôl tro gyda Amazon er mwyn gwella diogelwch eu gweithwyr, ond digon yw digon. Mae’n amser am ymchwil llawn gan y Senedd.”