Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd am ba hyd y bydd boicot Syr Keir Starmer o’r Sun yn para, sydd wedi arwain at gwestiynu pa mor ddidwyll yw’r weithred mewn gwirionedd.

Mae’n un o’r ymgeiswyr yn y ras i arwain y Blaid Lafur, ac mae’n dweud na fydd e’n cynnal cyfweliadau â’r papur newydd am weddill yr ymgyrch arweinyddol.

Eu beirniadaeth o Jeremy Corbyn yw’r rheswm sydd wedi’i roi, ac fe ddaeth ei sylwadau wrth siarad yn Lerpwl, lle mae’r ddinas gyfan yn cynnal boicot yn sgil eu sylw ffiaidd i drychineb Hillsborough ar hyd y blynyddoedd.

Mae rhai bellach yn ei gyhuddo o fanteisio ar farwolaeth Caroline Flack, oedd wedi cael ei haflonyddu gan y wasg tabloid yn sgil achos llys, ac o fanteisio hefyd ar fod yn ninas Lerpwl pan wnaeth e’r sylw.

“Fydda i’n sicr ddim yn rhoi unrhyw gyfweliadau i’r Sun yn ystod yr ymgyrch,” meddai.

Mewn sgwrs ar lwyfan yn ddiweddarach, awgrymodd y cyfwelydd fod angen cefnogaeth darllenwyr y Sun, papur asgell dde, arno er mwyn dod yn arweinydd.

“Wel, gadewch i ni ddod yn arweinydd gynta’ ac fe gewch chi ddod nôl wedyn i fy holi eto,” meddai wedyn.

Mae’r Blaid Lafur wedi amddiffyn ei sylwadau.

Mae Ayesha Hazarika, y cyfwelydd, bellach yn cwestiynu ei gymhelliant gan ofyn “a oedd ei safiad yn erbyn y Sun yn Lerpwl heddiw yn chwarae i’r ystafell?”