Mae Downing Street yn bygwth dileu ffi’r drwydded deledu a chyflwyno proses gofrestru er mwyn gwylio rhaglenni’r BBC.

Yn ôl y Sunday Times, mae’n bosib y bydd yn rhaid i’r Gorfforaeth werthu’r rhan fwyaf o’i gorsafoedd radio er mwyn gwneud toriadau.

Yn ôl y papur newydd, mae’r prif weinidog Boris Johnson yn awyddus iawn i ddiwygio’r Gorfforaeth a’r disgwyl yw y bydd ymgynghoriad ar newid natur y BBC.

Gallai nifer sianeli teledu’r BBC ostwng hefyd, gyda thoriadau pellach i’r wefan a llai o sêr yn cael cyflogau mawr am ail swyddi.

Mae lle i gredu bod nifer o Geidwadwyr blaenllaw yn ddig o hyd yn dilyn sylw’r BBC i’r etholiad cyffredinol fis Rhagfyr.

Mae Llywodraeth Prydain eisoes yn ystyried datgriminaleiddio peidio â thalu ffi’r drwydded, a’r gred yw y gallai gael ei ddiddymu’n llwyr yn 2027.

Mae Downing Street yn gwrthod gwneud sylw ond mae Grant Shapps, yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, yn dweud nad oes yna benderfyniad ynghylch y mater eto.