Mae sylwadau’r tri ymgeisydd i arwain y Blaid Lafur mewn hystingau yn Glasgow yn awgrymu mai Rebecca Long-Bailey yw’r unig un fyddai’n barod i gynnal ail refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban.

Dywedodd y byddai hi’n fodlon cefnogi cynnal ail refferendwm, ond mae hi’n rhybuddio’r Blaid Lafur na ddylen nhw “syrthio i’r fagl” o gydweithio â’r Ceidwadwyr er mwyn cynnal undod Prydain.

Mae hi’n brwydro yn erbyn Syr Keir Starmer a Lisa Nandy i olynu Jeremy Corbyn, ac mae hi’n pwysleisio bod angen adennill cefnogaeth Albanwyr er mwyn llywodraethu yn San Steffan eto.

“Wnawn ni ddim ennill etholiad cyffredinol heb yr Alban,” meddai Rebecca Long-Bailey.

“Dw i’n falch o ddod o’r Deyrnas Unedig ond fel democrat, rhaid i fi ddweud nad ydw i’n credu, pe bai Senedd yr Alban yn gwneud cais ar gyfer refferendwm, y gallwn ni fel plaid ddemocrataidd wrthod hynny.”

Sylwadau Lisa Nandy a Syr Keir Starmer

Sylwadau tra gwahanol gafodd eu cynnig gan y ddau arall yn y ras, Lisa Nandy a Syr Keir Starmer.

“Does dim llwybr i lywodraeth nad yw’n rhedeg trwy’r Alban, ond mae’r her sy’n perthyn i hyn yn hollol enfawr,” meddai Lisa Nandy.

“Rhaid i ni ddechrau ennill ym mhob rhanbarth a gwlad yn y Deyrnas Unedig oherwydd mae’n rhaid i ni ddangos ein bod ni’n blaid lywodraeth genedlaethol.”

Yn y cyfamser, mae Syr Keir Starmer yn dweud na all Llafur ddod i rym heb yr Alban.

“Allwn ni ddim ennill heb yr Alban felly rhaid i ni ail-adeiladu yn yr Alban,” meddai.

Mae’n dweud bod rhoi’r grym i gynnal ail refferendwm yn nwylo Holyrood yn “gwestiwn diddorol” ond “na ddylen ni gael ein hamsugno i mewn i hynny ar unwaith”.

“Mae’r SNP o hyd yn defnyddio’r mater cyfansoddiadol i gelu materion go iawn ac os awn ni i’r fan honno, byddwn ni’n syrthio i’r fagl gyda nhw.

“Gadewch i ni gael sgwrs eang am le’r awn ni nesaf, ond gadewch i ni fod yn ddewr am y peth,” meddai wedyn gan ddweud ei fod e’n cefnogi Prydain ffederal.

Lisa Nandy o blaid y Deyrnas Unedig

Mae Lisa Nandy yn dweud ei bod hi’n credu’n gryf yn y Deyrnas Unedig.

“Dw i’n credu bod rhaid i ni fod yn hollol glir am hynny, a sefyll i fyny dros yr Alban fel rhan o’r Deyrnas Unedig.

“Gallwn ni roi’r grym yn nwylo’r bobol a rhoi asiantaeth a rheolaeth i bobol ynghylch eu bywydau eu hunain unwaith eto drwy roi mwy o rym i’n cynghorau.”