Mae Mary-Lou McDonald, arweinydd Sinn Fein, yn cyhuddo Micheal Martin, arweinydd Fianna Fáil, o “haerllugrwydd” drwy “amddifadu’r bobol o’r hyn y gwnaethon nhw bleidleisio drosto”.

Daw ei sylwadau wrth iddi annerch cyfarfod o’r blaid yng ngorllewin Belffast wythnos ar ôl i Sinn Fein ddod i frig y polau dewis cyntaf yn yr etholiad cyffredinol.

“Mae’n ymddangos bellach mai cynllun Micheal Martin erbyn hyn yw amddifadu’r bobol o’r hyn y gwnaethon nhw bleidleisio drosto.

“Dyna i chi safbwynt haerllug ac anghynaladwy, o ystyried cryfder mandad Sinn Fein.”

Mae hi’n dweud nad oes gan Fianna Fáil na Fine Gael fwriad o unrhyw fath i uno Iwerddon.

“Mae sefydliad gwleidyddol Fianna Fáil a Fine Gael yn cylchdroi ac yn amddiffyn cynnal y status quo, na fydd yn cyflwyno’r newidiadau y gwnaeth trigolion bleidleisio drostyn nhw y penwythnos diwethaf.

“Waeth bynnag mor galed maen nhw’n trio, allan nhw ddim atal y galw cynyddol am undod.”

‘Mae’r bobol yn barod am newid’

Wrth ladd ar y ddwy blaid, mae Mary-Lou McDonald yn dweud bod Iwerddon yn barod am newid.

Mae hi’n dweud mai rôl ei phlaid yw sicrhau’r newid hwnnw, boed yn y cabinet yn ninas Dulyn neu wrth rannu grym yn Stormont yng Ngogledd Iwerddon.

“Mae’r bobol yn barod am newid,” meddai.

“Byddwn ni’n sicrhau llwyfan i’w lleisiau, a bod eu penderfyniad democrataidd yn cael ei barchu.

“Gall yr hen drefn gael ddoe. Does dim cynnydd i’w gael yno.

“Nawr yw’r eiliad am newid.

“Bydd y dyfodol yn gweld diwedd ar y rhaniad, gan sicrhau undod o fewn ein hamser.”