Mae corff dynes o Brydain, a ddiflannodd yn ystod taith gerdded yn Seland Newydd, wedi cael ei ddarganfod mewn parc cenedlaethol.

Cafodd yr heddlu eu hysbysu ddydd Llun (Chwefror 10) ar ôl i Stephanie Simpson, 32, o Essex fethu a chyrraedd ei gwaith fel garddwr yn ardal Wanaka, lle’r oedd hi wedi bod yn byw.

Roedd hi wedi dweud wrth ffrindiau ei bod hi’n bwriadu mynd i gerdded ym Mharc Cenedlaethol Mount Aspiring dros y penwythnos.

Dywed Sergeant Mark Kirkwood, o dîm chwilio ac achub yr arfordir gorllewinol bod corff cerddwr wedi cael ei ddarganfod yn ardal Pyke Creek y parc cenedlaethol heddiw (Chwefror 14).

Bydd y farwolaeth yn cael ei chyfeirio at y crwner.

“Mae’r teulu’n galaru ac maent wedi gofyn i’r cyfryngau barchu eu preifatrwydd yn y cyfnod anodd yma,” meddai Sergeant Mark Kirkwood.

“Hoffai’r heddlu ddiolch i bawb am eu hymdrechion diflino i ddod o hyd Stephanie ers i’r chwilio ddechrau ddydd Llun.”