Fe fydd Boris Johnson yn cadeirio ei gyfarfod cyntaf o’i Gabinet ar ei newydd wedd yn dilyn ad-drefnu sylweddol ddydd Iau (Chwefror 13).

Ymhlith y gweinidogion blaenllaw sydd wedi mynd mae Sajid Javid a oedd wedi ymddiswyddo fel Canghellor ar ôl cael gorchymyn i ddiswyddo ei brif ymgynghorwyr fel bod ymgynghorwyr oedd wedi cael eu dewis gan Rif 10 yn cymryd eu lle.

Fe benderfynodd Sajid Javid roi’r gorau i’w swydd yn lle a chafodd ei gyn-ddirprwy yn y Trysorlys, Rishi Sunak, ei benodi yn ei le.

Dywedodd Sajid Javid bod y Prif Weinidog yn gosod amodau y byddai “unrhyw weinidog gyda hunan-barch” yn gwrthod.

Daw’r newidiadau llai na mis cyn cyhoeddi’r Gyllideb ac mae’n dilyn tensiynau rhwng y cyn-ganghellor a phrif ymgynghorydd y Prif Weinidog, Dominic Cummings.

Ym mis Awst roedd Dominic Cummings wedi diswyddo Sonia Khan, ymgynghorydd Sajid Javid, ac mae’n ymddangos bod Rhif 10 eisiau mynd ymhellach er mwyn cadw llygad arno.

Rishi Sunak yw’r trydydd Canghellor o fewn blwyddyn.

Ymhlith y diswyddiadau eraill roedd Julian Smith fel Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon, Andrea Leadsom fel Ysgrifennydd Busnes, Theresa Villiers fel yr Ysgrifennydd Amgylchedd a Geoffrey Cox wedi colli ei swydd fel Twrne Cyffredinol. Cafodd Esther McVey hefyd ei diswyddo fel y gweinidog tai.