Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o lofruddio’r newyddiadwraig Lyra McKee yn Derry y llynedd.

Fe fydd Paul McIntyre, 52 oed o Derry, yn ymddangos gerbron ynadon y ddinas heddiw, dydd Iau 13 Chwefror.

Roedd y newyddiadurwraig 29 oed wedi cael ei saethu’n farw gan weriniaethwyr gwrthryfelgar wrth iddi adrodd ar derfysg yn y ddinas ym mis Ebrill.

Roedd hi’n sefyll wrth ymyl cerbyd heddlu gan gafodd ei tharo gan fwled a gafodd ei thanio tuag at yr heddlu.

Roedd Lyra McKee yn flaenllaw fel ymgyrchydd dros hawliau hoyw a Gogledd Iwerddon newydd a mwy goddefgar. Ymhlith y galarwyr yn ei hangladd roedd prif weinidogion Prydain ac Iwerddon ar y pryd, Theresa May a Leo Varadkar, ac arlywydd Iwerddon, Michael D Higgins.

Mae mudiad sy’n galw’i hun y New IRA wedi cymryd cyfrifoldeb am y llofruddiaeth.