Mae’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth wedi awgrymu y gall gwaharddiad ar werthu ceir petrol, disel a hybrid newyd ddod i rym ymhen 12 mlynedd – dair blynedd ynghynt na’r disgwyl.

Cyhoeddodd Boris Johnson yr wythnos diwethaf fwriad y Llywodraeth i gyflwyno’r gwaharddiad erbyn 2035, ond mae’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Grant Shapps, wedi awgrymu y gall hyn ddigwydd mor gynnar â 2032.

Arweiniodd cyhoeddiad y Prif Weinidog yr wythnos ddiwethaf at brotestiadau gan wneuthurwyr ceir, ond wrth siarad â BBC Radio 5 Live dywedodd Grant Shapps fod y Llywodraeth yn buddsoddi tua £1.5 biliwn er mwyn annog pobol i newid o geir betrol a disel.

“Mae gennym ni gynhyrchwyr ceir domestig ac rydyn ni am eu helpu i drosglwyddo,” meddai.

“Mae’r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf wedi dweud yr hoffem wneud hynny erbyn 2035 fan bellaf.

“Rydyn ni wedi dweud 2035 neu hyd yn oed 2032.”

“Helpu’r wlad i drawsnewid”

“Bellach mae mwy o leoliadau gwefru cyhoeddus na gorsafoedd petrol yn y wlad hon, ac rydyn ni am helpu’r wlad i drawsnewid”.

Nod y Llywodraeth yw annog gyrwyr i newid i gerbydau trydan er mwyn cyrraedd ei nod o gynhyrchu dim allyriadau erbyn 2050.