Amy Winehouse
Mae’r heddlu wedi cyfaddef bod gwybodaeth yn ymwneud â chwest i farwolaeth y gantores Amy Winehouse wedi cael eu hanfon i’r cyfeiriad anghywir.

Roedd yr heddlu wedi cael gwybod ddydd Gwener bod y wybodaeth wedi mynd i’r cyfeiriad anghywir, a chafodd y papurau eu dychwelyd i orsaf yr heddlu yng ngogledd Llundain yn ddiweddarach.

Dywedodd yr heddlu y byddai ymchwiliad i’r mater yn cael ei gynnal.

Roedd Amy Winehouse, 27 oed, wedi ei darganfod yn farw yn ei fflat yng ngogledd Llundain ar 23 Gorffennaf.

Roedd archwiliad post mortem wedi methu â darganfod achos ei marwolaeth a chafodd cwest i’w marwolaeth ei ohirio.

Mae disgwyl i’r cwest ail-agor yfory yn Llundain.