Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi bod coronavirus yn “peri bygythiad difrifol a gwirioneddol i iechyd cyhoeddus.”

Daw’r cyhoeddiad wrth i bwerau newydd gael eu cyhoeddi er mwyn atal y firws rhag lledu.

O dan y mesurau newydd a gyhoeddwyd heddiw (dydd Llun, Chwefror 10) dywedodd yr Adran Iechyd y bydd pobl sydd a coronavirus yn cael eu rhoi mewn cwarantin gorfodol ac na fyddan nhw’n cael gadael os ydyn nhw’n peri bygythiad i iechyd cyhoeddus.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Iechyd y bydd y mesurau yn “ei gwneud yn haws i weithwyr iechyd gadw pobl yn ddiogel ar draws y wlad.”

Daw hyn ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod dyn canol oed o wledydd Prydain a gafodd ei heintio gyda’r firws yn Singapore wedi’i gysylltu gydag o leiaf saith achos arall yn Lloegr, Ffrainc a Sbaen.

Bellach mae pedwar achos o’r firws wedi’u cadarnhau yn y Deyrnas Unedig.

Mae nifer o ddinasyddion Prydain wedi cael eu cludo o Wuhan yn Tsieina, lle’r oedd y firws wedi tarddu, i safle’r Llu Awyr yn Brize Norton.

Mae 40,000 o achosion o’r firws wedi cael eu cofnodi mewn gwledydd ar draws y byd, gyda’r rhan fwyaf yn Tsieina. Mae nifer y meirw yno wedi codi i 908 ond mae nifer y bobl sy’n cael eu heintio wedi sefydlogi, meddai’r awdurdodau.