Mae 68% o bobol yn credu bod ymgyrch #MeToo yn helpu pobol i drafod aflonyddu rhywiol yn fwy agored, yn ôl pôl gan Gyngres yr Undebau Llafur (TUC).

Ymhellach, 72% o fenywod a 78% o bobol ifanc sy’n credu hynny.

Ond mae nifer yr achosion yn dal yn uchel er gwaetha’r ymwybyddiaeth, yn ôl y Gyngres, sy’n galw ar Lywodraeth Prydain i gyflwyno dyletswydd gyfreithiol ar gyflogwyr i gymryd camau i ddileu aflonyddu rhywiol yn y gweithle, sef pwnc wythnos ymwybyddiaeth y Gyngres eleni.

Does yna’r fath ddyletswydd yn bod ar hyn o bryd, gyda dioddefwyr yn gorfod adrodd am achosion ar ôl iddyn nhw ddigwydd.

Mae’r Gyngres yn galw am roi mwy o hyfforddiant i staff a chyflogwyr a llunio polisïau clir.

Mae ystadegau’n dangos bod 52% o fenywod, a 63% o fenywod 18-24 oed, wedi cael eu haflonyddu’n rhywiol yn y gweithle.

Oedi wrth gyhoeddi canlyniadau ymgynghoriad

Roedd disgwyl i Lywodraeth Prydain gyhoeddi canlyniadau ymgynghoriad ar y pwnc fis diwethaf.

Ond dydy hynny ddim wedi digwydd o hyd, ac mae deiseb wedi’i sefydlu’n galw ar y llywodraeth i weithredu.

“Mae mudiad #MeToo wedi helpu pobol i siarad yn fwy agored am aflonyddu rhywiol,” meddai Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol dros dro y TUC.

“Mae hynny’n beth da.

“Ond dydy siarad am y broblem ddim yn mynd i’w datrys.

“Rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig roi’r gorau i lusgo’u traed a newid y gyfraith.”

“Cyflogwyr, ac nid dioddefwyr, ddylai fod yn gyfrifol am herio aflonyddu yn y gweithle.”