Mae’r Blaid Lafur wedi adrodd wrth y Comisiynydd Gwybodaeth am achosion posib o dorri rheolau gwarchod data yn ras arweinyddol y blaid.

Yn ôl adroddiadau, mae aelodau o dîm ymgyrch arweinyddol Syr Keir Starmer weei cael eu cyhuddo o hacio cronfa ddata o aelodau’r blaid.

Mae Jennie Formby, ysgrifennydd cyffredinol Llafur, wedi ysgrifennu at yr holl ymgeiswyr yn dilyn y digwyddiad honedig, ac mae “ymchwiliad trylwyr” ar y gweill.

Mae tîm Syr Keir Starmer yn gwadu eu bod nhw wedi gwneud unrhyw beth o’i le, gan ddweud bod yr honiadau’n “nonsens”.