Mae pump o bobol o wledydd Prydain yn dioddef o’r coronavirus yn Ffrainc.

Cawson nhw ddiagnosis ar ôl cael profion wedi iddyn nhw ddod i gysylltiad â rhywun oedd newydd ddychwelyd o Singapôr.

Dydy’r pump ddim mewn cyflwr difrifol, serch hynny.

Roedden nhw wedi bod yn sgïo ger Mont Blanc pan wnaethon nhw gyfarfod â’r unigolyn o Singapôr fis diwethaf.

Cafodd chwech o bobol eraill driniaeth yn yr ysbyty ar ôl bod yn y gwersyll gyda’r rhai sydd wedi cael diagnosis.

Mae uned wedi’i sefydlu ar gyfer pobol sydd wedi dod i gysylltiad â’r rhai sydd wedi’u heintio.

Yn y cyfamser, mae dyn o Wolverhampton yn gwella ar ôl bod ymhlith 61 o bobol a gafodd ddiagnosis ar ôl cael eu cludo i’r ysbyty yn Japan oddi ar long.