Cafodd tua 11,700 yn llai o geir eu cofrestru ym mis Ionawr nag yn ystod yr un mis yn 2019 yn ôl y Gymdeithas Gwneuthurwyr a Masnachu Moduron (SMMT).

Mae’r gymdeithas fasnach yn cynnig sawl rheswm dros hyn:

  • Dryswch mewn disel ac ardaloedd aer glan, yn ogystal â diffyg hyder prynwyr a busnesau.
  • Mae 13.9% yn llai o alw gan brynwyr preifat
  • Mae gwerthiant modelau disel a phetrol wedi cwympo 36.0%
  • Gwelwyd record mewn gwerthiant moduron tanwydd amgen, 11.9% ym mis Ionawr, i fyny o 6.8% yr un mis y llynedd.

Dyfodol

Ddydd Mawrth, (4 Chwefror) cyhoeddodd y Prif Weinidog Boris Johnson fwriad i dynnu ymlaen eu cynlluniau i wahardd gwerthiant ceir newydd disel a phetrol I 2035, bum mlynedd ynghynt na’r cynllun gwreiddiol.

Ond mae prif weithredwr yr SMMT yn bryderus.

“Mae marchnad ceir newydd yn rhan allweddol o economi Prydain, felly byddai mis arall o ostyngiadau yn peri gofid,” meddai.

“Er fod yr uchelgais yn ddealladwy, gan fod angen rhoi sylw i newid hinsawdd a’r gofid ynghylch ansawdd aer, nid yw gwaharddiadau cyffredinol fel hyn am helpu i gadw hyder prynwyr yn y tymor byr.”

Dywedodd Karen Johnson, pennaeth gwerthu a manwerthu Barclays Corporate Banking;

“Bydd maswchwyr ceir ar draws y wlad yn siomedig iawn gyda’r gostyngiad blynyddol mewn cofrestru ceir.

“Bydd y telerau fydd yn cael eu cytuno yn y gytundeb fasnach rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd yn allweddol i lwyddiant hir dymor y diwydiant.”