Mae angen deddfwriaeth frys er mwy osgoi rhyddhau brawychwyr hanner ffordd drwy eu dedfryd, yn ôl Robert Buckland, Ysgrifennydd Cyfiawnder San Steffan.

Daw ei ymateb ar ôl i Sudesh Amman gael ei saethu’n farw gan yr heddlu prin funudau ar ôl iddo ddechrau ymosod ar ddau berson oedd yn cerdded ar y stryd yn Streatham yn ne Llundain ddydd Sul (Chwefror 2).

“Mae’r digwyddiadau arswydus ddoe yn dangos yn glir fod angen cymryd camau brys,” meddai Robert Buckland wrth Dŷ’r Cyffredin.

“Allwn ni ddim cael sefyllfa fel y gwelon ni yn yr achos trasig ddoe, ble mae troseddwr – un oedd yn cael ei gydnabod yn berygl i’r cyhoedd – yn cael ei ryddhau’n gynnar drwy broses gyfreithlon awtomatig heb unrhyw oruchwyliaeth gan y bwrdd parôl.”

Cefndir

Roedd Sudesh Amman, 20 oed, wedi cael ei garcharu am feddiannu a dosbarthu dogfennau brawychiaeth yn Rhagfyr 2018.

Cafodd ei ryddhau lai na phythefnos yn ôl ac fe fu’n aros mewn hostel fechnïaeth gerllaw Leigham Court Road.

Yn ôl Scotland Yard, roedden nhw’n dilyn Sudesh Amman ar droed fel rhan o’u “hymgyrch gwyliadwriaeth gwrth-frawychiaeth” yn Streatham High Road.

Cafodd tri pherson eu hanafu yn yr ymosodiadau ddydd Sul, a’u cludo i’r ysbyty, ac maen nhw’n gwella, meddai’r heddlu.

Mae’r ymosodiad yma’n dilyn ymosodiad yn y “Fishmongers’ Hall” yn Llundain ym mis Tachwedd, pan lofruddiodd Usman Khan ddau berson.

Roedd wedi’i gael yn euog o frawychiaeth eisoes, ac ar fechnïath pan ddigwyddodd yr ymosodiad.