Mae 74 o brifysgolion drwy Brydain am gymryd rhan mewn streic 14 diwrnod  yn ystod Chwefror a Mawrth, meddai’r Undeb Prifysgolion a Cholegau (UCU).

“Rydym wedi gweld mwy o aelodau yn cefnogi streicio ers y streiciau yn ystod y gaeaf, a bydd y don nesaf o weithredu yn effeithio llawer mwy o brifysgolion a myfyrwyr,” meddai Jo Grady, ysgrifennydd cyffredinol yr UCU.

“Os am osgoi unrhyw fwy o darfu,” meddai “mae angen i’r prifysgolion ddelio gyda chostau cynyddol pensiwn, ac wynebu’r problemau gyda chyflogau a thelerau.”