Mae Boris Johnson wedi bygwth gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb masnach Brexit yn hytrach na derbyn eu rheolau.

Mae’r Prif Weinidog wedi defnyddio ei araith heddiw (dydd Llun, Chwefror 3) i ddatgan “nad oes angen” i’r Deyrnas Unedig ddilyn rheolau Brwsel.

Ond mae’n debyg y bydd prif drafodwr yr Undeb Ewropeaidd, Michel Barnier, yn pwysleisio bod unrhyw gamau pellach gan Brydain oddi wrth fodel yr Undeb Ewropeaidd yn ei gwneud hi’n anoddach i fasnachu.

Mae’r Undeb Ewropeaidd eisiau “tegwch i bawb”, gyda’r Deyrnas Unedig yn cytuno i gynnal safonau ar faterion megis yr amgylchedd a hawliau gweithwyr.

Ond mae Boris Johnson yn pwyso am gael cytundeb masnach rydd debyg i Ganada – gyda’r opsiwn o gytundeb mwy cyfyngedig tebyg i Awstralia wrth gefn – sydd wedi cael ei alw’n “dim cytundeb i bob pwrpas” gan wrthwynebwyr.

Masnach rydd

Dywed y Prif Weinidog: “Does dim angen i gytundeb fasnach rydd olygu gorfod derbyn rheolau’r Undeb Ewropeaidd ar bolisi cystadleuaeth, cymhorthdal, gwarchodaeth gymdeithasol, yr amgylchedd, neu unrhyw beth o’r fath, yn fwy na ddylai’r Undeb Ewropeaidd dderbyn rheolau’r Deyrnas Unedig.”

Yn ôl y Telegraph, bydd Michel Barnier yn mynnu bod y Deyrnas Unedig yn cytuno i dderbyn rheolau’r Undeb Ewropeaidd ar safonau oherwydd ei “agosrwydd daearyddol a’u cyd-ddibyniaeth economaidd”, yn ogystal â’r bygythiad o “gystadleuaeth annheg.”

Mae’r Deyrnas Unedig wedi dechrau cyfnod trawsnewidiad o 11 mis lle nad oes gan y wlad gynrychiolaeth ym Mrwsel ond yn dal i ddilyn rheolau’r Undeb Ewropeaidd nes bod cytundeb ar berthynas newydd yn cael ei gyflawni.

Mae’n bosib na fydd trafodaethau ffurfiol yn dechrau tan fis Mawrth, gan fod 27 aelod yr Undeb Ewropeaidd angen cytuno ar safle i’w gymryd ar y cyd.