Byddai croeso i’r Alban annibynnol ymuno â’r Undeb Ewropeaidd, yn ôl Donald Tusk, cyn-lywydd Cyngor Ewrop, sy’n rhybuddio na fyddai’r broses yn un hawdd.

Mae’n dweud y byddai’r Alban yn cael croeso “brwdfrydig”, a’i fod e’n teimlo’n “Albanaidd iawn” yn dilyn ymadawiad Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Alban wedi bod yn mynnu ers tro na ddylai gael ei thynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd yn groes i ddymuniad y rhan fwyaf o Albanwyr.

Daw sylwadau Donald Tusk ar raglen Andrew Marr ar y BBC ddiwrnodau’n unig ar ôl i Ska Keller, yr Aelod Seneddol Ewropeaidd o’r Almaen, rybuddio mai “twpdra” fyddai atal Alban annibynnol rhag dychwelyd i’r Undeb Ewropeaidd.

Mae pôl gan YouGov yn awgrymu bod 51% o Albanwyr bellach o blaid annibyniaeth, y tro cyntaf i’r ochr ‘Ie’ ennill mwyafrif ers y refferendwm aflwyddiannus yn 2014.

Serch hynny, dydy’r rhan fwyaf o Albanwyr ddim am weld ail refferendwm cyn 2022, er y bydden nhw’n ei groesawu yn ystod y pum mlynedd nesaf.

Parchu ‘sofraniaeth’

Er bod Donald Tusk yn dweud ers tro na fyddai’n gwneud sylw am yr Alban gan ei fod e’n “parchu sofraniaeth” y Deyrnas Unedig, mae’n ymddangos ei fod e bellach yn fwy parod i wneud sylwadau cyhoeddus.

“Dw i eisiau fy atal fy hun rhag dweud rhywbeth yn rhy blwmp ac yn blaen,” meddai.

“Ond weithiau dw i’n teimlo fel Albanwr – dw i’n teimlo’n Albanaidd, yn enwedig ar ôl Brexit.

“Ond ar yr un pryd, dw i’n gwybod pa mor bwysig yw’r gair sofraniaeth a gonestrwydd oedd sail y ddadl fewnol yn y Deyrnas Unedig.

“Dw i’n teimlo nad fy rôl i yw ymyrryd.”

‘Brwdfrydedd’

Yn ôl Donald Tusk, mae’n disgwyl i Frwsel ymateb yn “frwdfrydig” pe bai’r Alban annibynnol am ddychwelyd i’r Undeb Ewropeaidd.

“Yn emosiynol, does gen i ddim amheuaeth y bydd pawb yn frwdfrydig yma ym Mrwsel, ac yn fwy cyffredinol yn Ewrop,” meddai.

“Os ydych chi’n gofyn i fi am ein hemosiynau, fe fyddwch chi bob amser yn dyst i empathi, dw i’n meddwl.”

Er y croeso cynnes i’r Alban, mae’n pwysleisio bod yna broses i’w dilyn pe bai’r Alban annibynnol eisiau ymuno â’r Undeb Ewropeaidd eto yn y dyfodol.

“Pe bai rhywbeth fel annibyniaeth i’r Alban yn digwydd, er enghraifft, yna bydd angen proses gyson arnom ni.

“Proses newydd fyddai honno.”

… ond nid pawb sy’n cytuno

Yn y cyfamser, mae Dominic Raab, Ysgrifennydd Tramor San Steffan, yn rhybuddio na fydd pawb yn awyddus i groesawu’r Alban annibynnol i’r Undeb Ewropeaidd.

“O ystyried y tueddiadau i ymwahanu yn Sbaen, Ffrainc a’r Eidal, dw i ddim yn sicr y byddai arweinwyr Ewropeaidd, heb sôn am yma yn y Deyrnas Unedig, yn croesawu’r math yma o iaith,” meddai.