Mae Clarence House wedi amddiffyn Tywysog Charles ar ôl iddo gael ei feirniadu am hedfan dros 100 milltir mewn hofrennydd i fynd i draddodi araith am allyriadau carbon awyrennau.

Fe deithiodd e 125 milltir o’i gartref yn Highgrove i Gaergrawnt i annerch cynulleidfa o wyddonwyr o Brifysgol Caergrawnt sy’n ymchwilio i sut mae lleihau allyriadau carbon sy’n deillio o hedfan.

Mae lle i gredu bod y daith o 368 o filltiroedd wedi costio o leiaf £12,000 ac wedi achosi oddeutu 2.5 tunnell o allyriadau carbon, ac y gallai teithio mewn car fod wedi gostwng yr allyriadau i ddim ond 0.2 tunnell.

“Dydy’r tywysog ddim ynghlwm yn uniongyrchol â phenderfyniadau ynghylch ei drefniadau teithio, ond mae’n sicrhau bod yr holl allyriadau carbon yn cael eu cydbwyso bob blwyddyn,” meddai llefarydd ar ei ran.

“Maen nhw’n cael eu gwneud ar sail yr hyn sy’n bosib o fewn cyfyngiadau amser, pellter a diogelwch.

“Er mwyn iddo ymgymryd â chynifer o ymrwymiadau ag y mae e ledled y Deyrnas Unedig ac o amgylch y byd, mae’n rhaid iddo hedfan weithiau.

“Fel mae e’n aml yn ei ddweud, cyn gynted ag y bo ffordd fwy cynaladwy o deithio, fe fydd y cyntaf i’w defnyddio.”

‘Un rheol iddo fe…’

Mae ymgyrchwyr wedi beirniadu’r daith.

“Mae’n ymddangos mai ei farn e yw fod yna un rheol iddo fe, ac un arall i’r gweddill ohonom ni,” meddai Graham Smith ar ran ymgyrchwyr Republic.

“Byddai gyrru neu ddefnyddio’r trên fod wedi bod yn eithaf hawdd.”