Mae dyn 19 oed wedi marw a dynes 22 oed yn ddifrifol wael yn yr ysbyty ar ôl amheuaeth eu bod nhw wedi cymryd y cyffur MDMA mewn digwyddiad myfyrwyr.

Dywed yr heddlu fod amryw o bobl eraill wedi cael eu cymryd i’r ysbyty “yn dioddef effeithiau niweidiol” ar ôl bod mewn digwyddiad drwm a bas yn Leamington, Swydd Warwick.

Mae ditectifs yn amau bod y llanc wedi cymryd “pilsen goch o siâp hecsagon o’r enw Red Bull” ac maen nhw’n bryderus y gallai eraill fod wedi’i chymryd.

Cafodd y plismyn eu galw tua 5 o’r gloch fore heddiw i ymateb i adroddiad bod dyn ifanc yn ddifrifol wael. Fe fu farw’n ddiweddarach yn yr ysbyty.

Meddai’r Ditectif Uwcharolygydd Pete Hill o Heddlu Swydd Warwick:

“Er nad yw achos y farwolaeth wedi’i gadarnhau, rydym yn cadw meddwl agored ai’r bilsen wedi achosi adwaith drwg neu gor-ddos sy’n gyfrifol.

“Felly rydym yn cynghori unrhyw un arall sydd wedi cymryd y cyffur i geisio cyngor meddygol. Rydym yn gofyn hefyd i unrhyw un sydd wedi brynu unrhyw bils ond heb eu cymryd nhw eto i gael gwared â nhw mewn ffordd ddiogel.”