Mae’r Heddlu yn  Swydd Efrog wedi bod yn talu teyrnged i blismon gafodd ei daro gan lori tra’n helpu gwraig ar ôl i’w char dorri i lawr ar y draffordd.

Cafodd Pc Mark Goodlad, 41, ei gludo i’r ysbyty ar ôl y ddamwain ar draffordd yr M1 rhwng cyffordd 40 a 39, ond bu farw’n ddiweddarach.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gorllewin Swydd Efrog ei fod yn ddiwrnod trist i’r heddlu a bod Pc Mark Goodlad yn blismon ymroddedig a phrofiadol iawn oedd  wedi ei ladd tra’n gwneud gwaith peryglus iawn.

Cafodd gyrrwr y lori ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus.