David Cameron
Mae David Cameron wedi wynebu’r her fwyaf i’w awdurdod ar ôl i 79 o Aelodau Seneddol fynd yn groes i’w ddymuniadau a phleidleisio o blaid cael refferendwm ar ddyfodol Prydain yn yr Undeb Ewropeaidd.

Ymhlith y gwrthryfelwyr roedd  Aelod Seneddol Mynwy David Davies – yr unig AS Ceidwadol o Gymru i wrthfyela – ynghyd â Graham Brady, cadeirydd pwyllgor 1922, a’i ysgrifennydd Mark Pritchard.

Er bod y cynnig wedi cael ei wrthod gyda mwyafrif o 372 o bleidleisiau, mae’n anhebyg y bydd hynny’n gysur i’r Prif Weinidog.

Er iddo gynnal nifer o gyfarfodydd gyda’r amheuwyr Ewropeaidd a gwneud apel yn Nhŷ’r Cyffredin, fe fethodd i’w hatal rhag pleidleisio yn ei erbyn.

Dywedodd llefarydd ar ran Rhif 10 ei bod hi’n bwysig gwneud safiad cry far y mater. Ond yn ôl arweinydd y Blaid Lafur Ed Milliband, roedd y gwrthryfela gan y Toriaid wedi bod yn ergyd i’r Prif Weiniodog.

“Os nad ydy o’n gallu ennill dadl gyda’i feincwyr cefn, sut gall y wlad fod yn hyderus y gallai ennill y dadleuon hynny sydd o bwys i Brydain… Fe ddylai’r Prif Weinidog ddysgu ei wers,” meddai.