Mae adroddiadau yn y wasg fod dinesydd Prydeinig wedi lladd ei hun mewn canolfan fewnfudo yn yr Unol Daleithiau.

Y gred yw bod y dyn 39 oed wedi marw tra’n cael ei gadw mewn uned ICE.

Fe gafodd ei ganfod yn hongian ddydd Sadwrn diwethaf (Ionawr 25), ac ef yw’r pumed mewnfudwr i farw tra’n aros i gael ei asesu mewn canolfan ICE ers mis Hydref diwethaf.

Mae ymchwiliad ar y gweill, a dyw enw a manylion y gwr ddim eto wedi’u rhyddhau.