Mae bachgen 16 oed wedi’i gyhuddo o lofruddio bachgen 17 oed a gafodd ei drywanu i farwolaeth yn Leamington Spa.

Fe gafodd Nasir Patrice, o Birmingham, ei ladd  ddydd Mercher, Ionawr 15.

Mae bachgen 16 oed o Lundain – na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol – wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth, ceisio llofruddio, bod ag arf yn ei feddian, ac o herwgipio a cheisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Mae bachgen arall yn ei arddegau – Richard Talawila, 18, o Lundain – wedi cael ei gyhuddo o herwgipio ac o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.