Mae Emily Thornberry, un o’r rhai yn y ras i arwain y Blaid Lafur, yn dweud ei bod hi’n “casáu’r SNP”, yn ôl papur newydd The Scotsman.

Daw ei sylwadau wrth iddi gymryd rhan mewn cynhadledd a hystingau ar gyfer arweinyddiaeth ei phlaid yn Nottingham.

Fe wnaeth llefarydd materion tramor y blaid ddisgrifio’r blaid fel “Torïaid yn gwisgo dillad cenedlaetholwyr”.

Roedd hi’n ymateb i’r cwestiwn, “Ydych chi’n cytuno bod record yr SNP mewn llywodraeth yn wael, a bod yr agwedd hon ymhlith aelodau’n anghywir ac yn niweidiol i obeithion Llafur yn yr Alban?”

Mae hi hefyd wedi cwestiynu ai plaid asgell chwith ydyn nhw mewn gwirionedd.

“Dw i’n casáu’r SNP. Dw i’n casáu’r SNP,” meddai.

“Dw i’n credu mai Torïaid yn gwisgo dillad cenedlaetholwyr ydyn nhw.”

Mae hi hefyd yn cyhuddo’r blaid o fod yn “faciwm deallusol”, ac mai “dyna pam fod yr Alban wedi gadael Llafur… a does dim gobaith y daw’n ôl”.

Cafodd ei sylwadau fonllef o gymeradwyaeth gan y gynulleidfa.