Mae tad Meghan Markle, Duges Sussex, yn dweud ei fod e’n barod i herio’i ferch yn y llys, wrth iddi ddwyn achos yn erbyn tri phapur newydd.

Fe fydd Thomas Markle yn o’r prif dystion ar ran Associated Newspapers, sy’n berchen ar y Mail on Sunday a’r MailOnline.

Mae ei ferch yn dwyn achos am iddyn nhw gyhoeddi pytiau o lythyron yn ei llawysgrifen ato, ac mae hi’n honni iddyn nhw gamddefnyddio gwybodaeth breifat, torri rheolau hawlfraint a Gwarchod Data.

Mae dogfennau’r llys yn cyfeirio at erthygl oedd yn honni bod Thomas Markle wedi gwneud honiadau ffug am ei berthynas â’i ferch, ac mai fe oedd ar fai am y ffrae oedd wedi achosi iddo fethu priodas Meghan a Thywysog Harry.

“Fe wela i Meghan yn y llys,” oedd ei ymateb wrth siarad â’r Sun, gan ychwanegu y byddai’r profiad o’i weld e’n herio’i ferch yn “rhyfeddol” i bawb.

Perthynas y tad a’i ferch

Mae disgwyl i’r achos llys daflu goleuni ar berthynas Meghan Markle a’i thad.

Mae Thomas Markle yn honni iddo wario degau o filoedd o ddoleri ar addysg ei ferch er mwyn iddi fynd i ysgol breifat, a thalu wedyn am ei haddysg mewn prifysgol yn ogystal â’i ffioedd.

Mae’n honni hefyd i’w ferch anfon anrhegion “achlysurol” yn unig ato ar ôl iddi ennill ei ffortiwn am ymddangos yn y gyfres Suits.

Mewn llythyr a gafodd ei gyhoeddi fesul dipyn gan y Mail on Sunday a MailOnline fis Chwefror y llynedd, mae Meghan Markle yn dweud i’w thad dorri ei chalon “yn filiwn o ddarnau” ac na fyddai “fyth yn deall” pam iddo wneud honiadau “diangen”.

Mae cyfreithwyr Meghan Markle yn dadlau bod y pytiau wedi cael eu cyhoeddi allan o’u cyd-destun a bod y testunau llawn yn cynnig mwy o dystiolaeth o ymdrechion Thomas Markle i’w “phardduo”.

Yn ôl ei chyfreithwyr, ei phrif bryder oedd lles ei thad wrth iddo gael ei “ecsbloetio” gan bapurau newydd.

Ond mae cyfreithwyr ar ran y papurau newydd yn dweud mai poeni am ei delwedd ei hun yn unig y mae’r Dduges.

Daw’r achos wrth i Harry a Meghan roi’r gorau i’w teitlau brenhinol wrth baratoi am fywyd newydd yng Nghanada gyda’u mab Archie.