Mae cannoedd o bobol yn protestio yn Llundain wrth i’r gwrthdaro barhau yn Kashmir, ardal ar y ffin rhwng India a Phacistan.

Fe fu cryn frwydro a dadlau dros y blynyddoedd ynghylch pwy sy’n rheoli’r rhanbarth sy’n pontio’r ddwy wlad.

Mae’r protestwyr yn galw am “ryddid” i Kashmir ac yn cario baneri ac arwyddion yn galw ar India i roi’r gorau i “feddiannu” y rhanbarth.

Mae Diwrnod y Weriniaeth yn cael ei ddathlu yn India heddiw (dydd Sul, Ionawr 26).