Mae dau ddyn 21 oed wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddio pêl-droediwr 25 oed yn Swydd Nottingham.

Bu farw Jordan Sinnott, oedd yn chwarae i dîm Matlock, yn dilyn ymosodiad yn nhref Retford neithiwr (nos Sadwrn, Ionawr 25).

Mae Heddlu Swydd Nottingham yn cynnal ymchwiliad.

Mae dyn 27 oed yn y ddalfa ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol.