Mae Ian Blackford, arweinydd yr SNP yn San Steffan, ymhlith miloedd o bobol sy’n gorymdeithio yn Inverness dros annibyniaeth i’r Alban.

Mae’n un o gyfres o ddigwyddiadau yn y Alban i roi pwysau ar lywodraeth Boris Johnson, yn ôl papur newydd The National.

Daw’r orymdaith ddiweddaraf bythefnos ar ôl digwyddiad tebyg yn Glasgow a ddenodd 80,000 o bobol.

Mae hefyd yn un o’r digwyddiadau olaf cyn ymadawiad disgwyliedig Prydain o’r Undeb Ewropeaidd ar Ionawr 31.

Mae Ian Blackford yn ategu sylwadau Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban, mai pobol yr Alban ddylai ddewis a ydyn nhw’n aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig ar ôl Brexit.

Ac mae’n cyhuddo Llywodraeth Prydain o anwybyddu barn gwleidyddion a phobol gyffredin yr Alban.