Mae dyn a’i ferch 10 oed wedi marw mewn tân mewn eiddo yn Hull.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 7.50 fore heddiw (dydd Sadwrn, Ionawr 25), lle daethon nhw o hyd i’r ddau.

Cafodd y ddau eu tynnu o’r eiddo, ond fe fu farw’r dyn yn y fan a’r lle.

Bu farw’r ferch yn yr ysbyty’n ddiweddarach.

Mae ymchwiliad ar y gweill i achos y tân.