Mae mudiad Open Labour a’r Gymdeithas Ddiwygio Seneddol wedi dod ynghyd i bwyso ar yr ymgeiswyr ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Lafur i gefnogi’r alwad i ddiwygio San Steffan.

Daw’r her ar drothwy hystingau yn Nottingham yfory (dydd Sul, Ionawr 26), lle bydd yr ymgeiswyr yn amlinellu eu barn am gyfansoddiad Prydain.

Bydd Keir Starmer yn gwneud datganiad mewn fideo.

Mae ymgyrchwyr yn galw ar yr ymgeiswyr i gefnogi cynrychiolaeth gyfrannol ar gyfer aelodau seneddol, ac ethol Arglwyddi.

Mae Clive Lewis a Jess Phillips, dau ymgeisydd sydd eisoes wedi tynnu’n ôl o’r ras arweinyddol, yn cefnogi’r ymgyrch ond dydy’r ymgeiswyr eraill ddim wedi gwneud sylw hyd yn hyn.

Dywed ymgyrchwyr fod y drefn bresennol yn gadael miliynau o bobol heb eu cynrychioli, gan rybuddio fod cynnydd mewn pleidleisio tactegol a diffyg dewis wrth i bleidiau daro bargen â’i gilydd.

Mae cynrychiolaeth gyfrannol eisoes ar waith yn etholiadau’r Cynulliad yng Nghymru a Senedd yr Alban.

Mae lle i gredu bod 75% o gefnogwyr Llafur eisiau cyflwyno cynrychiolaeth gyfrannol yn San Steffan, ac mae Llafur Cymru’n cyflwyno deddfwriaeth fydd yn gwneud cynrychiolaeth gyfrannol yn bosib mewn etholiadau lleol.