Mae naw o bobl yn disgwyl am ganlyniadau profion coronavirus yng ngwledydd Prydain.

Ac mae Cyfarwyddwr Meddygol Iechyd Cyhoeddus Lloegr wedi dweud bod achosion yn “hynod debygol” o gyrraedd Prydain.

Hyd yn hyn, mae yno 14 o bobl ym Mhrydain wedi cael eu profi am coronavirus, gyda phump yn iach a naw yn disgwyl am ganlyniadau.

Mae 26 o bobl wedi marw yn Tsieina bellach, gyda dros 830 o achosion.

Wrth siarad ar raglen radio Today y BBC, dywedodd Paul Cosford o Iechyd Cyhoeddus Lloegr: “Fyddwn i ddim yn synnu os bydd pobl yn dychwelyd i Brydain o Tsieina gyda conoravirus.

“Y peth pwysig yw bod pobl yn cysylltu’n syth os ydyn nhw’n datblygu symptomau.”