Mae arweinydd yr SNP yn San Steffan Ian Blackford wedi honni bod yr Alban yn wynebu “ymosodiadau di-gynsail” wrth iddo ddadlau gyda’r Prif Weinidog.

Cyhuddodd Ian Blackford Boris Johnson o anwybyddu’r Smith Commision sy’n “cydnabod hawl pobol yr Alban i ddewis eu dyfodol eu hunain”.

Ond honnai Boris Johnson bod yr SNP yn gefnogol i “ddim byd ond cwynion”.

“Mae’r llywodraeth Geidwadol yma’n ymosod ar ddatganoli, mae pwerau’n cael eu cipio’n ôl gan San Steffan, does yno ddim parch tuag at bobol yr Alban, Cymru, Gogledd Iwerddon, na’i llywodraethau a’u penderfyniadau,” meddai Ian Blackford.

“Senedd Cymru yw’r drydedd llywodraeth datganoledig i wrthod cytuno i fesur Brexit y Torïaid.

“Pam fod llywodraeth y deyrnas Unedig yn anwybyddu’r egwyddor o gydsyniad i’n llywodraeth wladol?”