Fe fydd Mike Coupe, pennaeth archfarchnad Sainsbury’s, yn gadael ei swydd ym mis Mai ar ôl chwe blynedd wrth y llyw.

Bydd Simon Roberts, cyfarwyddwr manwerthu a gweithrediadau’r archfarchnad, yn ei olynu ac yn dechrau ar ei waith ym mis Mehefin.

Yn ystod cyfnod Mike Coupe yn bennaeth, fe fu’n gyfrifol am brynu Argos a Habitat ond hefyd am arwain yr ymgais aflwyddiannus i uno ag Asda.

Mae wedi ildio’i hawl i ennill bonws ariannol yn y dyfodol ar ôl i’r flwyddyn bresennol ddod i ben, ynghyd â chanran o’i gyflog o £962,000.

Bydd Simon Roberts yn ennill cyflog o £875,000 – 9% yn llai na’i ragflaenydd – ac fe fydd y cwmni’n cyfrannu 7.5% at ei bensiwn.

Roedd yr archfarchnad yn cyfrannu 30% at bensiwn Mike Coupe, oedd yn cael ei adnabod am dorri swyddi a haenau o reolwyr.

Mae’n gadael ar ôl achosi ffrae wrth gael ei ffilmio’n canu’r gân “We’re in the Money” wrth geisio prynu Asda, oedd wedi tynnu allan o’r trafodaethau yn fuan wedyn.

Roedd galwadau am iddo gael ei ddiswyddo, ond fe gafodd aros yn ei swydd.

Ymunodd Simon Roberts â Sainsbury’s ar ôl bod yn llywydd Boots UK ac yn un o reolwyr M&S rhwng 1993 a 2003.