lFe fydd Alex Salmond yn mynd gerbron llys heddiw (dydd Mercher, Ionawr 22), wedi’i gyhuddo o droseddau rhyw yn erbyn deg o fenywod.

Mae’r cyhuddiadau’n cynnwys ceisio treisio ac ymosod yn rhywiol.

Mewn gwrandawiad blaenorol, fe wnaeth e wadu 14 o gyhuddiadau, ac fe fydd yr achos yn ei erbyn yn dechrau fis Mawrth.

Mae wedi’i gyhuddo o geisio treisio dynes yn ei gartref swyddogol yn ystod ymgyrch y refferendwm annibyniaeth ac mae dogfennau’n honni ei fod e wedi rhoi ei choesau dros ei goesau fe, wedi cusanu ei hwyneb a’i gwddf droeon ac wedi cyffwrdd â hi cyn ei hatal rhag symud i ffwrdd.

Mae wedi’i gyhuddo wedyn o’i gwthio yn erbyn wal, o dynnu ei dillad a’i ddillad e cyn ceisio ei threisio ar wely.

Mae hefyd wedi’i gyhuddo o ymosod yn rhywiol ar ddynes gyda’r bwriad o’i threisio yn 2013.

Mae wedi’i gyhuddo ymhellach o orfodi dynes i orwedd ar wely yn ei gartref, gorwedd ar ei phen, cyffwrdd â hi a thynnu ei ffrog gyda’r bwriad o’i threisio.

Mae dynes arall yn honni iddo ymosod yn anweddus arni drwy ei chusanu a chyffwrdd â hi nifer o weithiau yn Glasgow yn 2008.

Mae wedi’i gyhuddo o ymosod yn rhywiol ar ddynes arall rhwng 2011 a 2013 drwy gyffwrdd â’i phen ôl.

Mae dynes arall yn ei gyhuddo o dynnu ei hesgidiau a cheisio’i chusanu yn 2013, ac un arall yn honni iddo afael mewn dynes arall gerfydd ei hysgwyddau a chusanu ei hwyneb a cheisio cusanu ei gwefusau a chyffwrdd â’i choes a’i hwyneb.

Mae wedi’i gyhuddo o gyffwrdd â menywod eraill rhwng 2010 a 2012.

Fe ddigwyddodd yr holl droseddau honedig rhwng 2008 a 2014, yn ôl erlynwyr.

Mae’n parhau i wadu’r cyhuddiadau gan addo brwydro hyd y diwedd i brofi ei fod e’n ddieuog.