Mae Tŷ’r Arglwyddi wedi trechu cytundeb Brexit Boris Johnson ddwywaith heddiw (Ionawr 22), gydag un mesur yn amddiffyn datganoli yng Nghymru.
Pleidleisiodd yr Arglwyddi 0 300 i 200 o blaid sicrhau hawliau plant sy’n ffoaduriaid i gael ailymuno gyda’u rhieni. Roedd hynn’n fwyafrif o 80.
Hon oedd y bedwaredd weaith i’r Prif Weinidog gael ei drechu o fewn 24 awr.
Yna, daeth y bumed golled wrth i’r Arglwyddi gefnogi mesur sy’n sicrhau pwerau datganoledig yr Alban a Chymru, gan nodi na fydd llywodraeth y Deyrnas Unedig “fel arfer” yn deddfu dros faterion datganoledig heb ganiatâd.
Pasiodd y mesur o 239 i 235, mwyafrif o bedwar.s
Bydd yn rhaid i’r mesurau fynd yn ôl i Dŷ’r Cyffredin er mwyn i aelodau seneddol gael craffu arnyn nhw yfory (Ionawr 23).
Mae’n debygol y gall Boris Johnson wrthdroi’r holl newidiadau gyda’i fwyafrif o 80.