lMae disgwyl i Nicola Sturgeon gyhoeddi “yr wythnos nesaf” beth fydd y cam nesaf yn y frwydr i ennill yr hawl i gynnal ail refferendwm annibyniaeth yn yr Alban.

Ar ôl i Boris Johnson a’r Ceidwadwyr ennill yr etholiad cyffredinol yn San Steffan fis diwethaf, ysgrifennodd prif weinidog yr Alban ato yn amlinellu’r “achos democrataidd” o blaid cynnal ail refferendwm.

Ond mae Llywodraeth Prydain yn gwrthod trosglwyddo’r hawl i Holyrood a fyddai’n arwain at gynnal refferendwm newydd, gan ddweud y byddai’n golygu y byddai’r Alban yn “aros yn ei hunfan”.

Mae Nicola Sturgeon yn awyddus i gynnal refferendwm yn ail hanner y flwyddyn, ond mae rhai aelodau o’r SNP o’r farn na fydd hynny’n digwydd.

Mae’r SNP yn dadlau bod ganddyn nhw fandad i gynnal ail refferendwm ar ôl ennill 47 allan o 59 o seddi’r Alban yn San Steffan.