Mae bygythiad Brexit i ddyfodol yr Alban “ar y gorwel”, meddai un o Aelodau Seneddol yr SNP, gyda 10 diwrod nes byd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Gwnaeth Philippa Whitford y rhybudd wrth i gytundeb Brexit Boris Johnson gael ei drechu yn Nhŷ’r Arglwyddi dros hawliau dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sy’n byw ym Mhrydain ar ôl Ionawr 31.

Cefnogodd yr Arglwyddi welliant oedd yn caniatáu prawf corfforol o’u statws fel dinasyddion, sy’n golygu bydd y mesur yn mynd yn ôl i Dŷ’r Cyffredin.

Ond dywed Philippa Whitford: “Fydd Ionawr 31 ddim yn ddathliad i bobl yr Alban, wnaeth bleidleisio dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd, a tra bod Rhif 10 Downing yn nodi’r diwrnod gyda sioe oleuadau, y gwir amdani yw bod y Deyrnas Unedig yn troi’r golau i ffwrdd adael y  gymuned ryngwladol ac ynysu ein hunain.”