Mae Stephen Barclay, Ysgrifennydd Brexit San Steffan, yn dweud bod rhaid parchu datganoli wrth fwrw ymlaen i weithredu Brexit heb fod Cymru a’r Alban wedi cydsynio i fargen Boris Johnson.
Mewn llythyr yn ymateb i’r diffyg cydsynio, dywed Stephen Barclay ei fod e’n cydnabod “rôl sylweddol” y gwledydd datganoledig yn y broses.
Ond mae’n dweud y bydd Llywodraeth Prydain yn bwrw ymlaen beth bynnag, yn groes i’r arfer pan nad yw’r gwledydd datganoledig yn cydsynio, a hynny am fod mater Brexit “yn benodol, yn unigol ac yn eithriadol”.
Ddechrau’r mis, pleidleisiodd aelodau seneddol Albanaidd yn Holyrood o 92 i 29 yn erbyn bargen prif weinidog Prydain.
Ac mae Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, yn annog Aelodau’r Cynulliad i’w wrthod pan ddaw i’r Senedd.
Mae disgwyl hefyd i aelodau Stormont yng Ngogledd Iwerddon i wrthod y fargen.
Tra bod angen cydsyniad y gwledydd datganoledig fel arfer, mae gan Lywodraeth Prydain yr hawl i fwrw ymlaen beth bynnag mewn rhai achosion.
Llythyr at Jeremy Miles
Mewn llythyr at Jeremy Miles, Gweinidog Brexit Cymru, dywed Stephen Barclay ei fod yn gobeithio y byddai’n newid ei feddwl.
Mae’n dweud bod y fargen yn “ein galluogi i barchu canlyniad y refferendwm lle gwnaeth pobol Cymru bleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd” fel bod modd “symud ymlaen i ganolbwyntio ar flaenoriaethau eraill a… dod â’r wlad ynghyd”.
Ond mae Llywodraeth yr Alban yn cyhuddo Stephen Barclay a Llywodraeth Prydain o “rwygo’r llyfr rheolau yn ddarnau”.