Mae gan 22 o ddynion cyfoethocaf y byd fwy o arian na 325 miliwn o fenywod Affrica gyda’i gilydd, yn ôl adroddiad gan Oxfam.

Mae hynny, medden nhw, yn dangos bod economi’r byd yn gwahaniaethu’n llwyr yn erbyn merched.

Ac mae eu hymchwilwyr hefyd wedi dangos bod gan 2,153 o biliwnyddion ar draws y byd fwy o gyfoeth na 4.6 biliwn o bobol.

Yr ymchwil

Yn ôl yr elusen

  • mae menywod a merched ifanc yn rhoi mwy ‘na 12.5 biliwn o oriau o waith di-dâl bob dydd trwy waith fel edrych ar ôl plant neu’r henoed.
  • Mae’r gwaith yma’n cyfrannu $10.8 triliwn i economi’r byd bob blwyddyn.

Mae’r elusen yn pwyso ar y Llywodraeth i leihau’r bylchau treth a gorfodi’r 1% mwyaf cyfoethog i dalu mwy o dreth.

Dywedodd Danny Sriskandarajah, Prif Weithredwr  Oxfam ym Mhrydain fod y canfyddiadau yn dangos bod yr “economi yn gwbl ‘sexist’”.

Uwchgynhadledd

Daw’r cyhoeddiad gan yr elusen ar drothwy Uwchgynhadledd Buddsoddi y Deyrnas Unedig-Affrica yn Llundain heddiw, sydd yn cael ei harwain gan Boris Johnson. Fe fydd 21 o wledydd Affrica yn dod ynghyd gyda gwledydd Prydain a chwmnïau o Affrica.

Mae’r elusen hefyd yn galw am fuddsoddi mewn dŵr a glendid, trydan, gofal plant a gofal iechyd cyhoeddus er mwyn arbed amser sylweddol i ferched Affrica.